Phobl Ifanc Sir Benfro
Nod Craidd 2 - Plant a phobl ifanc i gael dewis llawn o gyfleoedd addysg a dysgu
Blaenoriaethau Nod Craidd 2 ar gyfer 2011-2014 yw;
2a. Sicrhau bod cefnogaeth aml-asiantaeth gydlynol a hawl eang am ddarpariaeth ar gyfer pob unigolyn ifanc ar hyd eu dysgu o 8-25 oed gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiadau a dderbyniwyd ar y pwyntiau pontio Allweddol.
2b. Gwaith aml-asiantaeth gyda phobl ifanc mewn grwpiau penodol agored i niwed gydol yr ystod 8 - 25 oed er mwyn sicrhau y gallant gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu atebion o ran unrhyw rwystrau i'w dysgu ac i gyrraedd eu potensial llawn.
Bydd aelodau Nod Craidd 2 yn cydweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed yn cael eu cefnogi gydol eu dysgu, yn enwedig drwy'r pwyntiau pontio Allweddol yn ystod cyfnod 8-14, y cyfnod 14-19 oed a'r cyfnod 19-25 oed. Bydd Nod Craidd 2 hefyd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cymorth ar gyfer y grwpiau canlynol sy'n agored i niwed fel y gellir datblygu datrysiadau i unrhyw rwystrau rhag dysgu i'w galluogi i gyrraedd eu potensial llawn;
•· Plant a phobl ifanc ag Anghenion Ychwanegol, gan gynnwys anghenion meddygol
•· Plant a phobl ifanc sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad
•· Plant a phobl ifanc anabl
•· Plant a phobl ifanc â Saesneg fel iaith ychwanegol
•· Sipsiwn sy'n Teithio
•· Plant sy'n Derbyn Gofal
•· Plant a phobl ifanc sy'n fwy abl a thalentog
•· Pobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant
•· Plant a phobl ifanc sy'n ymwneud â'r Tîm Troseddau Ieuenctid
•· Gofalwyr Ifanc
Aelodau Nod Craidd 2:
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith y Grwpiau Nodau Craidd, byddwch cystal â chysylltu â Thîm Cymorth y Bartneriaeth ar (01437) 776252.
Cynllun Plant a Phobl Ifanc Sir Benfro 2011-14
ERTHYGLAU PERTHNASOL
